|
Calon Lān
Nid wy'n gofyn bywyd moethus,
Aur y byd na'i berlau mān:
Gofyn wyf am galon hapus,
Calon onest, calon lān.
Calon lān yn llawn daioni,
Tecach yw na'r lili dlos:
Dim ond calon lān all ganu
Canu'r dydd a chanu'r nos.
Pe dymunwn olud bydol,
Hedyn buan ganddo sydd;
Golud calon lān, rinweddol,
Yn dwyn bythol elw fydd.
(Chorus)
Hwyr a bore fy nymuniad
Gwyd i'r nef ar adain cān
Ar i Dduw, er mwyn fy Ngheidwad,
Roddi i mi galon lān.
(Chorus)
|